Home Page







Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, neu drais rhywiol, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnoch.
Sut mae cael cymorthDod o hyd i gymorth a dysgu mwy
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Mae'r mathau hyn o gam-drin a thrais yn cynnwys treisio a rheoli cymhellol.
Linell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800
Gwasanaeth negesdestun: 078600 77333
E-bostiwch: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Sgwrsio byw:
Dewiswch yr opsiwn i ganiatáu ffenestri naid yn eich porwr os ydych am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Mae sgwrsio byw ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
Cael gwared ar ran o organau cenhedlu allanol benywod yn llwyr neu’n rhannol am resymau nad ydynt yn rhesymau meddygol.
Llinell Gymorth FGM yr NSPCC: 0800 028 3550
Ebost: help@nspcc.org.uk
Trais ar sail Anrhydedd a Phriodas dan Orfod
Priodas dan orfod yw pan fydd un o’r bobl sy’n priodi, neu’r ddau, yn anfodlon priodi - a phobl eraill wedyn yn rhoi pwysau arnynt neu’n eu cam-drin. Mae priodas dan orfod yn un math o drais ar sail anrhydedd (HBV).
Linell Gymorth yr Uned Priodas dan Orfod: 020 7008 0151
Caethwasiaeth
Mae caethwasiaeth fodern, sydd hefyd yn cael ei alw’n “masnachu pobl”, yn digwydd ledled y byd, gan gynnwys Cymru.
Linell Gymorth Caethwasiaeth Fodern: 0800 0121 700
Cyngor ar gyfer gweithwyr proffesiynol
Dewch o hyd i ystod eang o ganllawiau ac adnoddau ar gyfer gweithwyr a phobl proffesiynol ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Byw Heb Ofn
Byw Heb Ofn yw gwefan Llywodraeth Cymru, sy'n darparu gwybodaeth a chyngor i'r rhai sy'n dioddef o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.